Mae dogfennau sy’ newydd eu rhyddhau yn dangos bod goresgyniad Ynysoedd y Malfinas gan yr Archentwyr wedi synnu Maggie Thatcher.

Dim ond deuddydd cyn y goresgyniad y daeth y Prif Weinidog ar y pryd i weld bod colli gafael ar y Malfinas yn bosibilrwydd.

Mae dogfennau’r Llywodraeth sydd wedi eu rhyddhau dan y rheol 30 mlynedd, yn dangos bod Mrs Thatcher yn poeni’n arw am fynd i ryfel er mwyn adennill yr ynysoedd.

“Doeddwn i erioed, byth bythoedd wedi disgwyl i’r Archentwyr oresgyn y Malfinas. Roedd yn beth mor wirion i’w wneud…yn beth mor dwp i hyd’noed ystyried ei wneud,” meddai Mrs Thatcher wrth gomisiwn tu ôl i ddrysau caeedig ar y pryd.