Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhyddhau lluniau teledu cylch cyfyng o’r dyn y maen nhw am ei holi mewn perthynas â diflaniad glaslanc o gartref maethu yn y Rhyl.

Gwelwyd Waheed Ullah Amjri, 16 oed, am y tro olaf yng ngorsaf drenau’r dref am bum munud wedi un b’nawn Sadwrn diwetha’. Credir iddo fynd ar drên yn teithio i Fanceinion.

Daw Waheed o Afghanistan yn wreiddiol, ac roedd dan y camargraff ei fod am gael ei hel yn ôl i’w famwlad.

Cred yr heddlu fod y dyn yn y llun wedi gweld Waheed yn yr orsaf.

Nid yw’r glaslanc wedi cysylltu gyda’i rieni maeth ers iddo ddiflanu.

Dylai unrhyw un gyda gwybodaeth am Waheed ffonio’r heddlu ar 101.