Mae dynes gafodd ei threisio droeon ar fws yn New Delhi wedi diodde’ anafiadau “sylweddol” i’w ymennydd ac yn brwydro am ei bywyd, yn ôl meddygon.

Cafodd y ddynes 23 oed ei chludo i Singapore mewn awyren i dderbyn triniaeth yn ysbyty Mount Elizabeth ddoe, deng niwrnod wedi i chwech o ddynion ymosod yn giaidd arni ar Ragfyr 16.

Heddiw dywedodd Dr Kelvin Loh bod ei hysgyfaint a’i habdomen wedi eu heintio hefyd.

Ar y foment mae hi’n “brwydro yn erbyn yr ods” meddai.

Mae’r trais wedi cynddeiriogi pobol yn India, gan arwain at bwyso am ddiogelu merched sy’n diodde’ camdriniaeth yn cynnwys popeth o folestio i dreisio yn ddyddiol ar hyd a lled y wlad.