Jo Swinson AS
Mae Gweinidog Cydraddoldeb Llywodraeth San Steffan wedi ysgrifennu llythyr agroed at olygyddion cylchgronau yn gofyn iddyn nhw beidio cyhoeddi deiets sy’n honni bod modd colli llawer o bwysau mewn cyfnod byr.
Dywedodd Jo Swinson AS y dylai rhifynnau Ionawr o’r cylchgronau yn hytrach “ddathlu prydferthwch y gwahanol fath o siapiau corfforol, lliw croen, maint ac oed.”
Ychwanegodd Ms Swinson bod deiets tymor byr yn gallu bod yn gamarweiniol.
“Fel golygyddion, mae gennych ddyletswydd mwy i’ch darllenwyr nac i hybu dulliau afiach o golli pwysau,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Deietegol Prydain bod colli llawer o bwysau yn rhy sydyn yn gallu creu problemau hefyd.
“Mae llawer o’r deiets yma yn gofyn am beidio bwyta rhai mathau o fwydydd yn gyfangwbl ac mae hyn ynddo’i hun yn gallu creu anghydbwysedd o safbwynt maeth,” meddai Rick Millar.
“Mae newidiadau bychain yn eich deiet yn llawer gwell,” ychwanegodd.
Dyw’r llythyr ddim yn debygol o effeithio ar y cylchgronau gan fod cynnwys rhifynnau Ionawr wedi ei bennu ers misoedd.