Yr Arlywydd Obama
Mae’r Arlywydd Obama wedi dod adref ynghynt na’r disgwyl o’i wyliau Nadolig er mwyn ceisio atal economi yr Unol Daleithiau rhag mynd i ddirwasgiad arall ar 1 Ionawr.

Mae trethi i fod i gynyddu yn sylweddol y diwrnod hwnnw a bydd rhaglen o doriadau mewn gwariant cyhoeddus hefyd yn dod i rym.

Gallai’r cyfuniad achosi dirwasgiad arall yn y wlad.

Roedd dydd Calan wedi cael ei bennu fel dyddiad er mwyn gorfodi yr Arlywydd a’r Gyngres i gytuno ar gynllun i arbed arian dros y degawd nesaf.

Hyd yma, mae’r Democratiaid a’r Gweriniaethwyr wedi methu cyfaddawdu ar y mater.

Os y bydd yr Unol Daleithiau yn diodde dirwasgaid arall yna bydd yn debygol o effeithio ar dwf economi gwledydd eraill y byd.