Mae gwraig wedi annog ei phartner, a aeth ar goll Noswyl Nadolig, i gysylltu â hi er mwyn dweud ei fod e’n ddiogel ac yn iach.
Mae heddlu yn ardal Gogledd Tyneside, yn credu i Colin Morton, 52 mlwydd oed, fynd am dro ar draeth Whitley Bay, nos Lun.
Ond heddiw, mae ei bartner, Liz Callighan, wedi apelio arno i gysylltu â hi.
Mae lluniau o gamera cylch-cyfyng yn dangos Colin Morton yn cerdded trwy orsaf Whitley Bay Metro fore Llun, gan anelu am le’r doctor. Gadawodd y syrjeri toc cyn chwarter wedi naw y bore, a mynd wedyn i un o fanciau’r dre’.
Fe ffoniodd ei bartner, Liz Callighan, am 9.50 y bore hwnnw, ond does neb wedi clywed dim ganddo wedi hynny.
Mae Colin Morton yn 5 troedfedd 10 modfedd o daldra, gyda gwallt brith yn teneuo. Roedd yn gwisgo top hwdi llwyd, trowsus du a chôt ysgafn ddu.