Mae’r ffordd negyddol y mae pobol gwledydd Prydain yn meddwl am bobol Affrica, yn rhwystro’r ymdrechion i drio rhoi diwedd ar dlodi a newydd ar y cyfandir, yn ôl Oxfam.
Mae’r elusen yn dweud fod tri o bob pump o bobol y maen nhw wedi ei holi (60%) yn dweud nad ydi ffilmiau o newyn yn Affrica yn cael effaith arnyn nhw bellach.
A’r “dad-sensiteiddio” hwn, yn ôl Oxfam, sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn i gyffwrdd calonnau pobol ynglyn â newyn, afiechydon a sychder mewn gwledydd pell.
Er bod bron i dri chwarter (74%) y bobol gafodd eu holi yn credu ei bod hi’n bosib rhoi diwedd ar ddiode’ yn Affrica, dim ond un o bob pump (20%) oedd yn credu y gallen nhw’u hunain wneud rhywbeth i wella’r sefyllfa.