Mae bron i un o bob pump ysmygwr sydd wedi trio rhoi’r gorau i sigarennau, wedi rhoi’r gorau iddi o fewn 24 awr. Dyna ganlyniadau arolwg.

At hynny, mae dros hanner y bobol sy’n dweud eu bod am roi’r gorau iddi, yn methu o fewn wythnos.

Ar gyfartaledd, mae pob ysmygwr yn ceisio rhoi’r gorau iddi bedair gwaith yn ystod ei oes. Ac mae un o bob deg yn trio – ac yn methu – ddeg o weithiau.

Ond, er gwaetha’r methiannau, mae bron i hanner ysmygwyr – 45% – yn meddwl am roi’r gorau iddi bob dydd.

Ac mae tri o bob pum (60%) yn bwriadu rhoi’r gorau iddi eto pan ddaw Ionawr 1.