Mae cic-focsiwr o wledydd Prydain wedi cael ei gyhuddo o drywanu milwr yng ngwlad Thai yn 2010.

Mae Lee Aldhouse wedi’i gyhuddo o ladd Dashawn Longfellow ar ôl cael ei guro gan yr Americanwr mewn cwffas mewn bar yn Phuket.

Cic-focsiwr rhan-amser oedd Aldhouse, ac roedd yn defnyddio’r llysenw, ‘Pitbull’. Roedd wedi bod yn byw ar ynys Phuket, lle’r oedd Longfellow hefyd yn astudio’r grefft o gic-focsio.

Fe gafodd Lee Aldhouse ei ystraddodi i wlad Thai yn gynharach y mis hwn. Fe gafodd ei arestio ym maes awyr Heathrow yn 2010 ar ôl gadael gwlad Thai yn fuan wedi i Dashawn Longfellow gael ei drywanu i farwolaeth mewn gwesty.