Fydd mater hela â chwn ddim yn cael ei drafod yn y dyfodol agos, na’r ddeddf sy’n ei wahardd yn cael ei diddymu chwaith.

Dyna rybudd Ysgrifennydd Amgylchedd llywodraeth San Steffan, Owen Paterson, wrth awgrymu na fyddai’r mater yn dod gerbron Ty’r Cyffredin y flwyddyn nesa’.

Mewn cyfweliad ym mhapur newydd y Daily Telegraph heddiw, mae’r gwleidydd sy’n gefnogwr o hela a chwaraeon cefn gwlad, yn dweud nad oes pwynt cael pleidlais ar y pwnc oni bai bod modd ennill y fôt.

“Ar hyn o bryd, fydden i ddim yn cynnig pleidlais y bydden ni’n debygol o’i cholli,” meddai. “Mae angen gwneud ychydig mwy o waith ar Aelodau Seneddol.

“Ein bwriad clir ni, fel llywodraeth, ydi cael pleidlais rydd ar y mater yma… ond mae angen i ni ddewis ein hamser yn ofalus.”

Heddiw, mae tua 300 o helfeydd Gwyl San Steffan yn cyfarfod ar hyd a lled gwledydd Prydain, ar ddydd prysura’r flwyddyn. Mae hyn yn digwydd er i’r llywodraeth wahardd hela â chwn yn 2005.