Fe fydd yr adolygiad i benderfyniad Newsnight i beidio darlledu adroddiad am honiadau o gam-drin yn erbyn Jimmy Savile yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Mae’n debyg bod rhai o brif weithredwyr y BBC, gan gynnwys y cyn gyfarwyddwr cyffredinol Mark Thompson, a newyddiadurwyr y rhaglen materion cyfoes wedi rhoi tystiolaeth fel rhan o’r adolygiad.
Mae’r BBC wedi gwadu honiadau na chafodd yr adroddiad ei ddarlledu am ei fod yn gwrthdaro gyda rhaglenni teyrnged i’r DJ a fu farw yn 2011.
Cafodd yr adolygiad ei gynnal gan gyn bennaeth Sky News, Nick Pollard.
Mae adroddiad ar wahân yn cael ei gynnal gan Ken MacQuarrie i adroddiad gan Newsnight lle’r oedd yr Arglwydd McAlpine wedi cael ei gysylltu ar gam gydag achosion o gam-drin plant mewn cartref gofal yng ngogledd Cymru.