Ian Watkins
Mae canwr y band roc Cymreig Lostprophets wedi cael ei gyhuddo o droseddau rhywiol yn ymwneud â phlant.
Fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru y bydd y cerddor 35 oed o Bontypridd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw.
Mae Ian Watkins yn cael ei gyhuddo o gynllwynio i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda merch dan 13 oed ac o feddu ar, neu ddosbarthu, lluniau anweddus o blant.
Fe fydd dwy ddynes, yn ymddangos yn y llys gydag ef wedi eu cyhuddo o droseddau tebyg. Mae un yn 20 oed ac yn dod o Bedford a’r llall yn 24 oed o Doncaster.
Fe gafodd y tri eu holi yn swyddfa’r heddlu ym Mae Caerdydd ac mae’n ymddangos fod yr arestio’n rhan o ymchwiliad o’r enw Operation Globe.
Ian Watkins oedd un o sylfaenwyr y Lostprophets sydd wedi cyhoeddi pum albwm ac wedi ymddangos mewn gwyliau roc anferth fel Reading.