Llun: Gwefan Stereophonics
Mae’r band roc Stereophonics wedi cyhoeddi y bydd eu halbwm newydd, ‘Graffiti on a Train’, yn cael ei ryddhau ar 4 Mawrth.

Mae’r band newydd ryddhau sengl newydd, ‘In a Moment’, ac yn ogystal â’r albwm, fe fyddan nhw’n rhyddhau ail CD o fersiynau acwstig a gwahanol o’r caneuon ar y record.

Mae’r band hefyd yn chwarae yn Llundain a Birmingham heno a nos fory.