Cartref Bryn Estyn
Mae’r Arglwydd McAlpine wedi dod i gytundeb gyda’r BBC ac ITV yn yr Uchel Lys ynglŷn â iawndal ar ôl iddo gael ei gysylltu ar gam gydag achosion o gam-drin plant yng ngogledd Cymru.

Nid oedd  cyn drysorydd y Blaid Geidwadol yn y llys yn Llundain heddiw lle bu cyfreithwyr y BBC ac ITV yn ymddiheuro’n daer am y gofid a achoswyd.

Fe fydd yr Arglwydd McAlpine yn derbyn £185,000 o iawndal gan y BBC a £125,000 gan ITV, ynghyd a chostau.

Daeth yr achos llys ar ôl i Newsnight ddarlledu rhaglen ym mis Tachwedd ynglŷn ag achosion o gamdrin honedig yng nghartref plant Bryn Estyn ger Wrecsam yn y 1970au a’r 80au.

Roedd dau o’r dioddefwyr wedi honni iddyn nhw gael eu cam-drin gan “wleidydd blaenllaw o’r Blaid Geidwadol yn ystod cyfnod Thatcher.”

Er nad oedd y rhaglen wedi cyhoeddi enw’r Arglwydd McAlpine, roedd cynhyrchwyr y rhaglen wedi bwriadu mai fe fyddai targed yr honiadau, meddai ei gyfreithiwr, Edward Garnier QC.

Dywedodd nad oedd sail i’r honiadau a bod y BBC yn derbyn hynny.

Chwe diwrnod ar ôl i Newsnight gael ei darlledu, roedd This Morning ar ITV wedi dangos cyfweliad gyda’r Prif Weinidog David Cameron. Roedd cyflwynydd y rhaglen, Phillip Schofield, wedi rhoi rhestr o enwau o bedoffiliaid honedig i David Cameron, oedd yn cynnwys enw’r Arglwydd McAlpine.