Mae rhan o draffordd yr M6 wedi cael ei chau i’r ddau gyfeiriad ac mae ’na oedi hir i yrwyr ar ôl i dancer yn cludo cemegau fynd ar dân bore ma.

Dywedodd Heddlu Sir Warwick bod teiar y cerbyd wedi chwythu a bod hynny wedi achosi’r tân. O ganlyniad bu’n rhaid cau’r draffordd i’r gogledd a’r de.

Bu’n rhaid i rai gyrwyr oedd yn teithio tu ôl i’r tancer adael eu ceir ar ôl i ddiffoddwyr tân atal pobl rhag mynd o fewn 500m i’r cerbyd.

Mae’r draffordd ar gau rhwng cyffordd 3 a 3A i gyfeiriad y gogledd, ac i’r de rhwng cyffordd 4 a 3.

Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i ddisgwyl oedi hir.