Leighton Andrews
Fe fydd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn lansio adnodd dysgu digidol newydd heddiw i blant a phobl ifanc 3-19 oed yng Nghymru.

MaeHwb’ yn blatfform dysgu dwyieithog ac yn caniatáu i athrawon a dysgwyr ddefnyddio  adnoddau ar-lein yn unrhyw le, ar unrhyw adeg, ac o unrhyw ddyfais sy’n defnyddio’r rhyngrwyd, ac mae disgwyl iddo weddnewid addysgu a dysgu ledled Cymru.

Bydd athrawon a dysgwyr yn gallu creu a rhannu eu hadnoddau eu hunain, cydweithio, a chael gafael ar adnoddau o bob rhan o’r wefan.

Bydd hefyd yn rhoi cyfle i ysgolion a cholegau greu a chynnal eu platfformau eu hunain, wedi’u teilwra i’w hanghenion eu hunain drwy Hwb+. Bydd hon yn ardal ddiogel, a dim ond nhw fydd yn gallu ei defnyddio.

‘Cyfle cyffrous’

Mae Hwb wedi cael ei dreialu mewn pedair ysgol yng Nghaerdydd, ond bydd yn cael ei lansio ledled Cymru heddiw.
Dywedodd Leighton Andrews: “Mae Hwb yn gyfle cyffrous i ysgolion weddnewid y ffordd maen nhw’n addysgu disgyblion ac yn ymwneud â nhw.

“Bydd yn chwarae rhan allweddol gan helpu ysgolion i rannu gwybodaeth gyda rhieni a’u cynnwys yn addysg eu plentyn, perthynas hollbwysig sydd, fel rydyn ni’n gwybod, yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran canlyniadau dysgwyr.”

Argymhellion adroddiad

Cafodd Hwb ei greu ar sail argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddulliau Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth. Fe gyhoeddwyd adroddiad y grŵp ym mis Mawrth 2012.

Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, amlinellodd y Gweinidog nifer o fesurau i wella’r ffordd mae ysgolion yn defnyddio technolegau digidol, gan gynnwys rhoi £3 miliwn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf i helpu i wella cyfrifiadureg, llythrennedd digidol a TGCh mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru.

Mae Hwb hefyd yn un o elfennau allweddol y Cynllun Gwella Ysgolion a gyhoeddodd y Gweinidog ar 20 Hydref.
Bydd yn helpu gyda phob un o brif elfennau’r rhaglen gwella ysgolion – dysgu ac addysgu effeithiol, arweinyddiaeth effeithiol, a phartneriaethau.

‘Gwahaniaeth gwirioneddol’

Ychwanegodd Leighton Andrews: “Mae hwn yn brosiect mawr ac rydyn ni’n ei gyflwyno un cam ar y tro, gan ymgynghori â phob rhanddeiliaid, gan gynnwys colegau addysg bellach a darparwyr eraill, drwy gydol y broses hon.

“Ein nod yw sicrhau bod pob dysgwr 3–19 oed yng Nghymru yn cael yr hawl i ddefnyddio Hwb erbyn Mehefin 2015.

“Dwi’n hyderus y bydd Hwb yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau addysg pob dysgwr 3-19 oed ac y daw’n blatfform dysgu o’r radd flaenaf i Gymru.”