Coffi Starbucks
Mae cwmni coffi Starbucks wedi dweud eu bod yn cynnal trafodaethau efo Cyllid y Wlad a ‘r Trysorlys am faint o dreth y dylai dalu.
Roedd Starbucks ymhlith nifer o gwmniau mawr gafodd eu beirniadau’n hallt gan un o bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin yn ddiweddar am dalu cyn lleied o dreth ym Mhrydain.
Yn ôl datganiad gan Starbucks “rydym wedi gwrando ar adborth gan ein cwsmeriaid a’n gweithwyr ac rydym yn deall bod angen gwneud rhagor er mwy cynnal a datblygu ymddiriedaeth y cyhoedd yn y cwmni. Fel rhan o hyn rydym yn edrych ar sut yr ydym yn ymdrin â threth ym Mhrydain.”
Dywedodd y datganiad hefyd y bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhyddhau yn ddiweddarach yr wythnos yma.
Mae’n debyg i’r cwmni gyhoeddi gwerthiant o bron i £400m yn y DU llynedd ond thalwyd yr un geiniog o dreth gorfforaethol gan fod llawer o’r arian sy’n cael ei ennill yma yn cael ei drosglwyddo i chwaer gwmni yn yr Iseldiroedd a hynny yn galluogi’r cwmni Prydeinig i gyhoeddi colledion.
Yn y cyfamser, tra’n cael ei holi gan Andrew Marr ar y BBC y bore yma, dywedodd y Canghellor y bydd yn sicrhau rhagor o gyllid i’r awdurodau ym Mhrydain i atal cwmniau mawr o dramor rhag osgoi talu treth.