Mae’n bosib cynnal “egwyddorion” cynllun yr Arglwydd Leveson ar reoli’r Wasg heb greu cyfraith, yn ôl Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Prydain.
Yn groes i’r Blaid Lafur, y Lib Dems a’r rhai sy’ wedi diodde’ ymddygiad gwarthus y papurau newydd, mae Maria Miller wedi wfftio’r syniad o ddeddfu er mwyn ffrwyno arferion gwaetha’r Wasg.
Ddoe bu i Leveson gondemnio “diwylliant o newyddiadura ffwrdd-â-hi a gwarthus” a oedd wedi arglwyddiaethu mewn rhai rhannau o’r Wasg ers degawdau.
Roedd yn argymell creu corff newydd i reoleiddio’r Wasg, gyda grym y gyfraith y tu cefn iddo.
Tra bo’r Prif Weinidog David Cameron o blaid caniatau i bapurau newydd gael “cyfnod cyfyngedig o amser” i roi trefn ar bethau, mae ei Ddirprwy Nick Clegg a’r Blaid Lafur yn credu bod angen creu cyfraith.