Mae corff sy’n cynorthwyo’r rhai sy’n diodde’ trais domestig, wedi herio’r Comisiynwyr Heddlu sy’ newydd eu hethol i fynd i ddatgan eu barn am y mater.

Yn ôl Hafan Cymru doedd dim trafod ar drais domestig adeg etholiadau’r Comisiynwyr.

Mewn llythyr agored at y pedwar Comisiynydd Heddlu yng Nghymru, mae Prif Weithredwr Hafan Cymru yn eu herio i ddatgan beth yw eu safbwyntiau ar drais domestig a’r problemau mae’n achosi.

‘Mae’n destun pryder mawr i ni,’ meddai Cathy Davies yn ei llythyr, ‘ein bod wedi gweld llawer o drafod ar greu cymunedau saffach a chael plismyn ar y bît, ond roedd tawelwch llethol ar fater Trais Domestig…y llynedd yng Nghymru a Lloegr cafodd 2,174 o ymosodiadau eu riportio bob dydd, gyda thair dynes yn galw’r heddlu bob dau funud.”

Ystadegau brawychus

Yn ôl Hafan Cymru mae dros 50,000 o ferched Cymru yn diodde’ trais domestig bob blwyddyn – ac mae’r achosion sy’n cael eu riportio wedi cynyddu 17% ers y dirwasgiad.

Maen nhw’n amcangyfrif bod £826 miliwn yn cael ei wario bob blwyddyn oherwydd trais domestig, gyda’r Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yn ysgwyddo’r baich i raddau sylweddol iawn.