David Cameron
Fe fydd David Cameron ym Mrwsel heddiw ar gyfer uwchgynhadledd i drafod cyllid yr Undeb Ewropeaidd.

Y Prif Weinidog fydd un o’r rhai cyntaf bore ma i gwrdd â llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jose Manuel Barroso a llywydd y Cyngor Ewropeaidd Herman Van Rompuy, sydd hefyd yn cadeirio’r uwchgynhadledd.

Fe fydd arweinwyr eraill gwledydd yr UE hefyd yn cwrdd â’r ddau lywydd yn ystod y dydd – y bwriad yw sicrhau na fydd na oedi yn y trafodaethau oherwydd anghytundeb rhwng yr arweinwyr. Mae disgwyl i’r trafodaethau ddechrau o ddifrif dros ginio heno.

Yr unig eitem ar yr agenda yw maint cyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer 2014-2020.

Mae David Cameron yn awyddus i wariant yr UE aros fel y mae, neu ostwng hyd yn oed.

Ond mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn mynnu bod cynnydd mewn gwariant yn angenrheidiol – mae nhw’n galw am g

ynnydd o 5.9% o’i gymharu â 2007-2013, er mwyn talu am bolisïau sydd eisoes wedi eu cytuno gydag aelodau’r UE.

Fe all y trafodaethau barhau dros y penwythnos wrth i’r gwledydd geisio cytuno ar faint y cyllid.