Ron Bowman (llun gan Gymdeithas y Cleifion)
Mae achos dyn oedrannus o Gasnewydd yn cael ei ddefnyddio i dynnu sylw at rai o fethiannau mawr y Gwasanaeth Iechyd.
Mae teulu Ron Bowman, 74, yn honni na chafodd ddigon o ofal cyn iddo ddianc o ward arbennig a boddi mewn afon gerllaw.
Yn ôl Cymdeithas y Cleifion, mae’r achos yn enghraifft o’r ffordd y mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gwneud cam â rhai cleifion bob dydd.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yng Ngwent, roedden nhw wedi cynnal Ymchwiliad Digwyddiad Difrifol i’r achos, ond doedd dim modd gwneud sylw pellach oherwydd fod cwyn ffurfiol wedi’i gwneud.
Yr achos
Roedd Ron Berry’n diodde’ o ddryswch meddwl ac yna wedi cael llid yr ymennydd. Ar ôl cael ei drin am hynny, fe gafodd ei osod mewn ward arbennig ar gyfer cleifion dementia yn Ysbyty Sirol Panteg ym Mhont-y-pŵl.
Yn ôl ei deulu, roedd wedi dianc ddwywaith cyn y digwyddiad ola’ ond roedd staff wedi rhoi sicrwydd iddyn nhw ei fod yn cael gofal da.
“Dylai fy nhad fod wedi cael gofal ar lefel addas gan staff,” meddai ei fab, Nick Bowman, “Roedd staff i fod i edrych ar fy nhad bob chwarter awr.”
Mae’r teulu’n credu bod Ron Bowman wedi ceisio croesi’r afon er mwyn mynd yn ôl gartre’ at ei wraig.
Gwasanaeth ‘yn methu’
Mae’r achos yn un o 13 sydd wedi cael sylw mewn adroddiad gan Gymdeithas y Cleifion – detholiad, medden nhw, o achosion sy’n dod i’w sylw trwy linell gymorth.
“Casgliad trist yr adroddiad yma yw fod llawer gormod o gleifion yn dal i gael eu methu gan y Gwasanaeth Iechyd bob dydd,” meddai Katherine Murphy, Prif Weithredwr yr elusen.
“Mae’r achosion dychrynllyd a thrist yma’n tynnu sylw at yr oblygiadau dwys pan fydd arferion gwael yn mynd heb eu herio na’u newid.”