Mae dynes 38 oed wedi ei chyhuddo o lofruddio yn dilyn tân angheuol mewn tŷ.

Fe fydd y ddynes, o ardal Kings Heath, yn mynd gerbron Llys y Goron Birmingham yfory ar gyhuddiad o ladd Nusarat Bugum ac o geisio llofruddio tri o bobl eraill gafodd eu hanafu yn y tân.

Bu farw Nusarat Bugum, 36, a oedd ar ymweliad a Phrydain o Bacistan, yn yr ysbyty yn dilyn y tân mewn tŷ yn Heol Speedwell, Edgbaston ar 5 Tachwedd.

Cafodd tri o bobl eraill eu hanafu’n ddifrifol ac maen nhw’n parhau mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.