Mae rhai o staff  y BBC yn wynebu camau disgyblu ar ôl i’r Gorfforaeth gyfaddef bod y rhaglen Newsnight, a oedd wedi cysylltu cyn wleidydd Ceidwadol gydag achosion o gam-drin plant ar gam, wedi methu a chwblhau “ymchwiliad newyddiadurol sylfaenol”.

Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Diwylliant wedi ymuno yn y feirniadaeth o’r penderfyniad i roi cyflog blwyddyn o £450,000 i gyn gyfarwyddwr cyffredinol y BBC, George Entwistle, gan ddweud ei fod yn “anodd cyfiawnhau.”

O dan delerau ei gytundeb, fe fyddai George Entwistle, a ymddiswyddodd ddydd Sadwrn ar ôl 54 diwrnod yn ei swydd, wedi derbyn cyflog chwe mis.

Neithiwr, roedd adroddiad i raglen Newsnight gan gyfarwyddwr y BBC yn yr Alban, yn dangos bod yna ddryswch ynglŷn â phwy oedd a chyfrifoldeb golygyddol am y stori, pan gafodd yr Arglwydd McAlpine ei gysylltu ar gam gydag achosion o gam-drin plant yng ngogledd Cymru.

Dywedodd yr adroddiad bod strwythur rheolaeth olygyddol y rhaglen wedi cael ei “wanhau”  oherwydd bod y golygydd wedi gorfod camu o’r neilltu yn sgil helynt Jimmy Savile, ac roedd y dirprwy olygydd hefyd wedi gadael. Ychwanegodd Ken MacQuarrie bod ’na ddiffygion yn safon y newyddiaduraeth hefyd.

Dywedodd Ymddiriedolaeth y BBC bod canfyddiadau Ken MacQuarrie yn “bryderus iawn”.