Cyngor Dinas Birmingham
Mae  Cyngor Dinas Birmingham wedi rhybuddio y bydd y gost o dalu £757 miliwn mewn hawliadau yn dilyn achos am gyflog cyfartal, yn cael effaith ar yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau eraill.

Fe all y ffigwr gynyddu os ydy’r cyngor yn derbyn rhagor o achosion, sy’n dyddio’n nôl i 2006.

Mewn datganiad heddiw dywedodd Cyngor Dinas Birmingham bod hyn yn “peri her aruthrol i’r cyngor.”

Mae grŵp o fwy na 150 o weithwyr benywaidd, gan gynnwys, glanhawyr a staff gofal, wedi ennill achos am gyflog cyfartal yn erbyn y cyngor.