Mae’r Bil cyntaf i gael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol ers rhoi pwerau deddfu newydd i’r sefydliad yn mynd i dderbyn Cydsyniad Brenhinol mewn seremoni yng Nghaerdydd heddiw.
Bydd Bil Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol yn dod yn gyfraith pan fydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn rhoi’r Sêl Gymreig ar y Breinlythyrau a gafodd eu llofnodi gan y Frenhines.
Roedd Swyddfa Cymru wedi awgrymu nad oedd gan y Cynulliad yr hawl i ddeddfu ar yr iaith Saesneg, ond ddechrau’r mis cyhoeddodd na fydd yn ceisio atal y Bil yn y Goruchaf Lys.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod heddiw yn “ddiwrnod hanesyddol i ni fel cenedl.”
“Mae’n symbol o gychwyn cyfnod newydd o ran llywodraethu Cymru,” meddai Carwyn Jones.
“Pan bleidleisiodd pobol Cymru o blaid rhoi pwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad Cenedlaethol yn y refferendwm y llynedd, dywedais mai hen wlad yw Cymru, ond democratiaeth ifanc.”
O fewn y Bil Ieithoedd bydd y Cofnod o drafodaethau’r siambr ar gael yn Gymraeg a Saesneg, gyda fersiwn Gymraeg o fewn pum niwrnod.
“Deddf gwbl addas”
Dywedodd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rosemary Butler: “Ym mis Mawrth 2011 dangosodd mwyafrif pobl Cymru eu bod o blaid rhoi pwerau deddfu llawn i’r Cynulliad.
“Heddiw, mae Deddf gyntaf erioed Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn derbyn Cydsyniad Brenhinol. Mae’n gwbl addas mai rhoi statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg yn nhrafodion y Cynulliad y bydd ein Deddf gyntaf fel corff deddfu.
“Bymtheng mlynedd yn ôl, prin y byddai unrhyw un wedi dychmygu y byddai gwleidyddion a etholwyd gan bleidleiswyr Cymru yn drafftio deddfwriaeth o’r fath, a’i throsglwyddo i’r llyfr statud mewn cyfnod mor fyr.
“Dylai pob un ohonom deimlo ein bod yn rhan o hanes heddiw, ar y diwrnod y mae’r Cynulliad wedi cyflawni’r mandad a roddwyd iddo gan bobol Cymru yn 2011, i lunio deddfau ar gyfer Cymru.”