Fe fydd rhai o enwau mawr y BBC yn gweld newid yn y modd y maen nhw’n cael eu talu, yn dilyn y ffrae fawr tros gynlluniau rhai sêr i osgoi talu treth incwm.
Fe fydd mwy na 100 o enillwyr mawr – yn cynnwys y newyddiadurwyr Jeremy Paxman a Fiona Bruce – sydd ar hyn o bryd yn cyfrannu’n llawrydd i’r BBC, yn cael eu rhoi ar lyfrau staff.
Daw’r penderfyniad hwn wedi i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus feirniadu’r modd y gallai cyfranwyr dderbyn taliadau gan y BBC, heb orfod talu treth, trwy ‘gwmnïau’ yr oedden nhw’u hunain wedi eu sefydlu.
O ganlyniad, fe fydd y BBC yn sefydlu meini prawf newydd ar gyfer pawb sy’n gweithio i’r Gorfforaeth, ac yn adolygu’r dulliau o dalu pawb sy’n ennill dros £50,000 y flwyddyn.
Mae’r BBC wedi amcangyfri’ y bydd 131 o unigolion yn cael cynnig cytundebau staff, pan fydd eu trefniadau tâl presennol yn dod i ben.