Milwyr ar batrol
Mae milwr o Abertawe yn galw ar Brydain i ddod â’i milwyr adref o Afghanistan ar fyrder.
Daw galwadau’r Is-gorporal Dominic Austin, o’r Gwarchodlu Cymreig, ar ôl iddo golli tri ffrind mewn ymsodiadau gan yr heddlu Afghanaidd ro’n nhw’n eu hyfforddi.
“Byddai’n lot mwy saff i bawb os o’n nhw jyst yn dod adref,” meddai’r milwr mewn cyfweliad ar raglen y Byd ar Bedwar.
Mewn rhaglen arbennig o Afghanistan heno, bydd y Byd ar Bedwar yn siarad â’r milwr o Gwm Tawe wrth iddo warchod cydfilwyr sy’n rhoi hyfforddiant i luoedd a heddluoedd newydd y wlad.
Mae’r rôl warchodol yma’n un gymharol newydd o fewn lluoedd Prydain yn Afghanistan, sydd wedi ei chyflwyno yn sgil ymosodiadau ar y milwyr gan rai Afghaniaid y maen nhw’n eu hyfforddi.
Yn ystod eu taith ddiweddaraf, cafodd tri milwr o’r Gwarchodlu Cymreig eu lladd mewn ymosodiadau gan Afghaniaid mewn lifrau heddlu.
‘Troi arnon ni’
“Mae bechgyn yn marw mas ’na am ddim rheswm. R’yn ni’n trio hyfforddi’r heddlu ond maen nhw’n troi arnon ni,” meddai Dominic Austin, a glywodd y newyddion am farwolaethau ei ffrindiau Lee Thomas Davies, Apete Tuisovurua a Craig Roderick mewn neges dros y radio o’i wersyll e yn Pin Kalay.
Mae 50 o filwyr rhyngwladol wedi cael eu lladd yn yr ymosodiadau ‘gwyrdd-ar-las’ yma yn Afghanistan eleni, lle mae rhai Afghaniaid wedi bod yn troi eu harfau ar eu hyfforddwyr.
‘Datblygiad’
Fe dreuliodd newyddiadurwyr y Byd ar Bedwar bythefnos yng nghwmni’r Gwarchodlu Cymreig yn Afghanistan, yn gweld y gwaith dydd i ddydd yr oedd y milwyr yn ei wneud wrth geisio hyfforddi lluoedd diogelwch newydd i’r wlad.
Un o’r rhai sydd wedi bod yn hyfforddi’r Afghaniaid lleol yw Wyn Edwards o Langoed, Ynys Môn. Mae e’n dweud bod y milwyr wedi gweld “datblygiad” yng ngallu’r lluoedd lleol.
“Pan ddaethon ni yma gyntaf, fe wnaethon ni sylweddoli fod eu sgiliau darllen mapiau yn wan iawn, felly r’yn ni wedi dyfeisio sawl cwrs er mwyn iddyn nhw ennill sgiliau darllen map sylfaenol.
“R’yn ni hefyd wedi bod yn hyfforddi’r fyddin a’r heddlu i fod yn hyfforddwyr eu hunain,” meddai.
Mae’n dweud nad oes amser gan y milwyr i feddwl gormod am farwolaeth ffrindau a chyd-filwyr tra allan yn Afghanistan.
“Pan fyddwn ni’n mynd adra fyddwn ni’n cofio. Dyden ni ddim yn ceisio anghofio amdano fo tra’n bod ni allan yma, ond gallwn ni ddim a gadael iddo fo effeithio ar ein gwaith ni,” meddai.
Gwerth i’r gost
Wrth ymateb i nifer cynyddol yr ymosodiadau ar filwyr Prydain gan Afghaniaid sy’n cael eu hyfforddi, dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y “manteision yn fwy na’r peryglon,” a’u bod nhw wedi “gweithio’n galed i ostwng y risg sydd ynghlwm â’r cydweithio.”
Mae’r Weinyddiaeth hefyd yn dweud eu bod nhw’n “gweithio’n agos gyda phartneriaid Afghanaidd er mwyn gwella’r broses o fetio a recrwitio ar gyfer Lluoedd Diogelwch Cenedlaethol Afghanistan.”
Bydd adroddiad y Byd ar Bedwar o Afghanistan yn cael ei ddarlledu heno, 9pm ar S4C.