Huw Marshall
Mae S4C wedi penodi Huw Marshall yn Rheolwr Digidol.

Ac fe ddaeth y cyhoeddiad amser cinio heddiw – nid yn annisgwyl, efallai – trwy neges gan y dyn ei hun ar ei gyfri’ Twitter.

Mae Huw Marshall yn ei ddisgrifio ei hun fel “ymgynghorydd cyfryngol, cyfarwyddwr a chynhyrchydd” sy’n “caru gwneud rhaglenni teledu”.

Fe fu am gyfnod yn ddigrifwr stand-yp ac yn actor, cyn symud i’r byd technegol a ffurfio ei gwmni ei hun, Melys Media.

“Falch o gael cyhoeddi fy mod newydd ddechrau yn fy swydd fel Rheolwr Digidol S4C,” meddai ei neges – yn Gymraeg yn gynta’ ac yna yn Saesneg.

Ar ei wefan Twitter hefyd, mae’n nodi ei fod yn siaradwr Cymraeg yn byw ar dyddyn mewn cwm hyfryd i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr gyda’i wraig a’i ferch fach.

Bydd cyfweliad gyda Huw Marshall yng nghylchgrawn Golwg dydd Iau.