Mae pobol dlotaf Lloegr yn fwy tebygol o ddiodde’ trawiad ar y galon nag y mae pobol fwy cyfforddus eu byd.
Mae’r gagendor rhwng nifer y marwolaethau o ganlyniad i glefyd y galon yn ardaloedd cyfoethocaf a thlotaf Lloegr, wedi lledu ers y 1980au, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae ymchwilwyr o’r Imperial College yn Llundain wedi bod yn astudio cyfraddau marw dynion a merched rhwng 30 a 64 oed, ac yna dros 65 oed, rhwng 1982 a 2006.
Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i glefyd cardio-fasgwlar (CVD) wedi mwy na haneru yn Lloegr yn y cyfnod.
Mae mwy o ddynion yn marw o glefyd y galon ym Manceinion, Lerpwl a Birmingham, rhannau o Swydd Efrog, a wardiau tlotaf Llundain – Newham, Hackney a Haringey.
Mae awduron yr adroddiad yn rhybuddio y gallai’r dirwasgiad diweddara’, cynnydd mewn diweithdra, a thoriadau llymach yng ngwariant cyhoeddus, gael effaith ar ystadegau’r dyfodol.