Mae banc HSBC yn barod i wynebu gwerth biliynau o bunnau o ddirwyon, a hynny am iddo gam-werthu polisïau yswiriant, a chaniatau i bobol drosglwyddo arian yn anghyfreithlon.

Mae’r grwp wedi cyhoeddi ei fod wedi rhoi $800m o’r neilltu (£500m) er mwyn talu dirwyon gan awdurdodau yn yr Unol Daleithiau sydd wedi gwneud cyhuddiadau yn erbyn y banc.

Mae bellach wedi rhoi o’r neilltu gyfanswm o $1.5bn (neu £935m) er mwyn talu am yr holl sgandal. Ond mae wedi rhybuddio nad oes dêl wedi ei tharo eto, ac y gallai’r gost fod yn “uwch, yn sylweddol uwch”.

Yn y cyfamser, mae HSBC yn dweud ei fod wedi clustnodi $353m (£220m) er mwyn talu iawndal i’r rheiny brynodd bolisiau PPI ganddyn nhw ar gam. Mae’r bil hwnnw bellach wedi cyrraedd mwy na  $2bn (£1.2bn).

Y dirwyon hyn, yn ogystal ag effaith ei ddyledion ei hun, sy’n gyfrifol am ostyngiad o 51% yn rhagolygon elw cyn-treth y banc am y tri mis hyd at Fedi 30.