Boris Johnson
Fe fydd gweithwyr ar gyflog isel yn Llundain yn derbyn 25c yr awr yn ychwanegol, yn ôl cyhoeddiad gan Faer y ddinas heddiw.

Fe fydd y cyflog teg (Living Wage) ym mhrifddinas Lloegr yn codi i £8.55 yr awr, ac yn werth £4.5m y flwyddyn i’r garfan honno o gymdeithas, meddai Boris Johnson.

Mae’r gyfradd yn cynyddu o 25c mewn ardaloedd y tu allan i Lundain hefyd, gan godi i £7.45 yr awr. Ar hyn o bryd, £8.30 yw’r gyfradd yn Llundain, o gymharu â £7.20 yng ngweddill gwledydd Prydain.

£6.19 yr awr yw’r isafswm cyflog ar gyfer oedolion yng ngwledydd Prydain.

“Trwy greu gweithluoedd sy’n driw ac wedi’u hysbrydoli, mae’r Living Wage yn help hefyd i fusnesau sydd eisiau codi’r cyflogau isaf.

“Mae’n gwneud yn siwr fod pobol sy’n gweithio’n galed ac sy’n cyfrannu i lwyddiant Llundain, yn gallu mwynhau safon o fyw deche.”