Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller wedi rhybuddio’r BBC y gall wynebu ymchwiliad cyhoeddus llawn os na fydd ei ymchwiliadau mewnol yn datgelu’r holl wir am helynt Jimmy Saville.
Mae’r BBC wedi lansio dau ymchwiliad – un i arferion gwaith y gorfforaeth ar hyd y blynyddoedd pan oedd Saville yn gweithio iddi, ac un arall i benderfyniadau Newsnight i beidio â darlledu rhaglen am gamweddau’r pedoffeil.
“Yr her gwirioneddol i’r BBC yw sicrhau bod yr adolygiadau hyn yn darganfod yr holl wir am y cyhuddiadau hyn,” meddai Maria Miller.
“Os na fydd yr ymchwiliadau’n ddigon tryloyw, yna mae ymchwiliad cyhoeddus yn dal i fod yn opsiwn.”
Mae Maria Miller eisoes wedi ysgrifennu at yr Arglwydd Patten, cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, i ddweud ei bod hi’n hanfodol fod yr ymchwiliadau’n “gallu dilyn y dystioliaeth i ba le bynnag y mae hynny’n mynd â nhw”.
Dywedodd ei bod yn hanfodol bwysig fod y BBC yn cyhoeddi’r holl dystiolaeth i’w ymchwiliadau – rhywbeth y mae’r gorfforaeth wedi gwrthod ei wneud hyd yma.