Arweinydd Llafur, Ed Miliband
Sicrhau ‘cyflog byw’ o £7.20 o leiaf yr awr i filiynau o bobl yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, fydd un o brif amcanion Llafur mewn llywodraeth, yn ôl eu harweinydd Ed Miliband.
Dywed Arweinydd yr Wrthblaid fod y cyflog – yr isafswm angenrheidiol ar gyfer safon byw derbyniol – yn rhan allweddol o’i weledigaeth ‘Un Genedl’ i rannu cyfoeth.
Fel rhan o’i adolygiad polisi, mae Llafur yn edrych ar dair ffordd o weithredu’r telerau cyflog newydd:
- enwi a chywilyddio cwmnïau mawr nad ydyn nhw’n talu’r cyflog, trwy reolau rheoli corfforaethol
- cyfyngu contractau’r Llywodraeth i gwmnïau sy’n talu ‘cyflog byw’ neu uwch i’w gweithwyr
- cymhellion ariannol gan y Trysorlys i gwmnïau sy’n cyflwyno’r strwythur tâl.
“Mae argyfwng safonau byw ym Mhrydain oherwydd nad yw enillion twf economaidd yn cael eu rhannu’n deg,” meddai Ed Miliband.
“Hwn yw’r cam nesaf i’r Un Genedl, oherwydd hanfod yr Un Genedl yw bod gan bawb ei ran mewn cymdeithas a bod cyfoeth yn cael ei rannu’n deg.”
Ychwanegodd y byddai cyflog byw’n dda i fusnesau gan y byddai hynny’n eu gwneud nhw’n fwy abl i ddal gafael ar eu gweithwyr.