Denis MacShane (Antidotto CCA 2.5)
Mae Denise MacShane wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i fod yn Aelod Seneddol weid Iddo gael ei ddal yn twyllo er mwyn hawlio miloedd o bunnau o dreuliau.
Roedd y Pwyllgor Safonau a Breintiau wedi cael Denis MacShane yn euog o dwyllo wrth hawlio costau ac yn, ôl y Cadeirydd, Kevin Barron, dyma’r achos mwya’ difrifol yr oedden nhw erioed wedi ei drin.
Fe gyhoeddodd y Blaid Lafur ar unwaith eu bod yn atal aelodaeth Denis MacShane ac yn derbyn ei ddyfarniad ei hun fod ei yrfa wleidyddol “i bob pwrpas ar ben”.
Fe fydd yr AS yn ystyried ei ddyfodol gyda ffrindiau a chydweithwyr ac fe fydd Pwyllgor Gwaith y Blaid Lafur hefyd yn ystyried ei achos.
Anfonebau ffug
Fe benderfynodd y Pwyllgor yn y Senedd fod AS Rotherham, sydd hefyd yn gyn Lywydd ar Undeb y Newyddiadurwyr – yr NUJ – wedi cyflwyno 19 o anfonebau ffug wrth hawlio £12,900 o gostau.
Doedd hi ddim yn bosib bod yn sicr, meddai adroddiad y Pwyllgor, ond roeden nhw’n amcangyfri bod tua £7,500 wedi eu hawlio “y tu allan i’r rheolau”.
Roedd Denis MacShane wedi talu’r £12,900 i gyd yn ôl ond, ym marn y Pwyllgor, roedd hi’n amlwg ei fod wedi bwriadu twyllo.
Beio’r BNP
Fe roddodd yntau’r bai ar blaid asgell dde’r BNP am ymgyrchu yn ei erby ac am geisio dinistrio’i yrfa oherwydd ei safiad yn erbyn rhagfarn at Iddewon.
“Yn amlwg, mae’n flin gen i fod fy null o hawlio costau ynglŷn â fy ngwaith yn Ewrop ac yn ymladd gwrth-semitiaeth wedi cael ei farnu mor hallt,” meddai mewn datganiad.
Mae wedi bod yn AS ers 1994 ac roedd yn Weinidog Ewrop rhwng 2005 a 2008.