Mae un o bwyllgorau Cyngor Ceredigion yn argymell ystyried cau pob ysgol sydd â llai na 50 o ddisgyblion.
Ar hyn o bryd y trothwy ar gyfer ystyried cau ysgol yn y sir yw 30 o blant.
Bydd cabinet Cyngor Ceredigion yn ystyried y trothwy newydd sydd wedi ei gynnig gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Cymunedau Sy’n Dysgu.
Mae nifer y disgyblion yng Ngheredigion wedi gostwng o 10,695 yn 2001 i 9,655 ym mis Ionawr eleni.
Yn ôl y cyngor mae ’na 1,436 o lefydd gwag mewn 54 ysgol gynradd yn y sir.