Ddydd Llun bydd Cyngor Caerdydd yn derbyn cydnabyddiaeth am fod y cyngor sir cynta’ yng Nghymru i dalu cyflog teg (‘living wage’) i’w gweithwyr, sef o leiaf £7.20 yr awr.
Wythnos nesaf mae hi’n Wythnos Cyflog Teg a bydd cyngor sir y brifddinas yn derbyn cydnabyddiaeth gan Sefydliad Cyflog Teg.
Mae’r lleiafswm o £7.20 yr awr maen nhw’n dalu i’w gweithwyr £1.12 yn fwy na’r isafswm cyflog swyddogol.
Oherwydd y penderfyniad i dalu mwy mae dros 2,000 o staff y cyngor sydd ar y cyflogau isaf wedi cael codiad cyflog.
“Mae talu cyflog teg yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd miloedd o lanhawyr, cogyddion a staff diogewlch ar hyd y wlad,” meddai Rhys Moore o’r Sefydliad Cyflog Teg.