Mitt Romney
Ychydig ddyddiau cyn yr etholiad arlywyddol yn America mae’r adroddiad economiadd olaf yn dangos bod nifer y di-waith wedi codi ychydig, ond bod mwy na’r disgwyl o swyddi wedi eu creu.
Ddydd Mawrth bydd etholwyr yn penderfynu rhnwg rhoi ail dymor i Barack Obama a chael dyn newydd wrth y llyw yn Mitt Romney.
Dengys y polau piniwn bod y ras ymysg y rhai agosa’ yn hanes diweddar America.
Tra bo Obama yn dadlau bod yr economi yn gwella’n araf deg, mae Romney yn anghytuno gan fynnu bod yr adroddiad ar swyddi yn “atgof trist bod yr economi yn sefyll yn ei unfan”.
Bydd Obama yn wynebu’r pleidleiswyr gyda’r nifer fwya’ o bobol ar y clwt ers Franklin Roosevelt adeg Dirwasgiad Mawr yn y 1930au.
Cafodd 171,000 o bobol swyddi ym mis Hydref, ond mi gododd nifer y di-waith o 7.8% i 7.9% ym Medi.
Mae nifer y di-waith yn is nag 8%, y gyfradd isaf ers i Obama ddod yn Arlywydd yn Ionawr 2009.