Mae pedwar o heddweision wedi eu saethu’n farw yn ne rhanbarth Helmand yn Afghanistan, a hynny gan gydweithwyr.
Mi ddigwyddodd yr ymosodiad adeg newid shifft ar safle heddlu, pan ddaeth pedwar o gydweithwyr i gymryd drosodd gan y plismyn, ond eu saethu’n farw.
Mae o leiaf 55 o filwyr tramor wedi marw yn dilyn ymosodiadau gan luoedd diogelwch Afghanistan eleni.
Ac mae nifer tebyg o blismyn a milwyr Afghanistan wedi eu lladd gan gydweithwyr hefyd.
Canlyniad hyn yw bod y berthynas rhwng yr Afghaniaid ar yr un llaw, a’r Americaniaid a’r Glymblaid Nato ar y llall, wedi gwaethygu.
Yn ei dro mae hyn wedi bwrw amheuaeth ar allu’r Afghaniaid i fedru ymdopi pan fydd milwyr tramor yn gadael y wlad yn 2014.