Fe fydd canolfan newydd ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio diogelwch rhai o’rdulliau mwya’ dadleuol o gynhyrchu ynni, ac yn cesio’u gwneud yn saffach.

Fe glywodd y Sefydliad Ymchwil i Ddiogelwch Ynni y bydd yn derbyn £12 miliwn gan Lywodraeth Prydain – bron un rhan o dair o holl gost sefydlu’r ganolfan, y gynta’ o’i bath yn y Deyrnas Unedig.

Y disgwyl yw y bydd tua 150 o swyddi yn rhan o’r sefydliad gyda’r Brifysgol yn hawlio y bydd yn denu ymchwilwyr da rhyngwladol.

O ffracio i ynni gwyrdd

Fe fydd gwaith y Sefydliad yn cynnwys astudio meysydd fel ffracio – chwalu creigiau dan ddaear i ryddhau nwy – trwy ddatblygu modelau cyfrifiadurol. Fe fydd hefyd yn cynnwys y technolegau gwyrdd diweddara’.

Fe fydd y Sefydliad ei hun yn rhan o gamps newydd ar gyfer Gwyddoniaeth ac Arloesi i’r dwyrain o’r ddinas.

“Un o’r sialensiau technegol, gwleidyddol a chymdeithasol mwya’ sy’n wynebu’r byd yn yr 21ain ganrif yw i ddarparu ynni glân, fforddiadwy, gyda chyflenwad cynaliadwy sydd ar gael yn gyffredinol,” meddai Dirprwy Ganghellor y Brifysgol tros Wyddoniaeth a Pheirnianneg.