Aneirin Hughes fydd yn actio rhan Gwynfor Evans
Mi fydda hi’n llawer iawn yn waeth ar yr iaith Gymraeg, oni bai am fygythiad Gwynfor Evans i ymprydio dros fater S4C.

Dyna ddywed yr Arglwydd Dafydd Wigley mewn ffilm ar y Sianel nos Sul sy’n adrodd hanes tro pedol Llywodraeth Thatcher ar fater S4C.

Mae’r Arglwydd Wigley hefyd yn datgelu bod Gwynfor Evans yn hollol grediniol y byddai’n llwgu i farwolaeth ar y pryd.

“Fe ddywedodd e wrtha i na fyddai yma’n hir iawn eto,” meddai Dafydd Wigley yn y ddrama ddogfen.

“Fe ddywedodd na all un Llywodraeth ymateb i flacmel – dyna oedd ei eiriau fo – a’i fod yn derbyn felly y byddai’n marw yn yr ymdrech. Ond teimlai fod angen gwneud hyn er mwyn gwneud safiad dros Gymru.”

Ond ni fu’n rhaid i Gwynfor Evans fynd heb fwyd oherwydd mi benderfynodd Llywodraeth Thatcher gadw at eu haddewid gwreiddiol i sefyldu sianel deledu Gymraeg.

“Roedd llwyddiant ymgyrch Gwynfor ag arwyddocâd mewn sawl cyfeiriad,” meddai Dafydd Wigley.

“Oni bai bod y fuddugoliaeth wedi dod gyda S4C yn 1982, dwi ddim yn meddwl y byddai rhagolygon yr iaith yn ddim byd tebyg i’r hyn ydyn nhw. Mae digon o sialensiau o’n blaenau o hyd ond dyna oedd y trobwynt o safbwynt creu hyder newydd a phenderfyniad newydd ac mae diolch aruthrol i Gwynfor am hynny.”

Mae Gwynfor Evans: Y Penderfyniad ar S4C nos Sul yma am naw.