Freddie Starr
Mae’r digrifwr Freddie Starr wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr  heddlu ar ôl cael ei holi yn rhan o’r ymchwiliad i Jimmy Savile a cham-drin rhywiol.

Mae’r heddlu’n ystyried honiadau fod sêr teledu ac enwogion eraill yn rhan o’r achosion o gam-drin yn benna’ yn erbyn merched ifanc.

Ond mae’r digrifwr wedi gwadu’n ffyrnig ei fod yn euog o unrhyw drosedd gan ddweud ei bod yn “gwbl anghredadwy” i honni ei fod wedi bod mewn stafell newid gyda Savile a’r canwr pop, Gary Glitter, sydd hefyd wedi cael ei holi.

Condemnio

Fis yn ôl, roedd Freddie Starr, 69 oed, wedi condemnio Jimmy Savile ac wedi gwahodd yr heddlu i’w holi er mwyn iddo gael clirio’i enw.

Er nad yw’r heddlu wedi ei enwi’n swyddogol, maen nhw wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dyn yn ei 60au yn Swydd Warwick ddoe a’i fod wedi ei ryddhau ychydig wedi un o’r gloch fore heddiw.

Mae ymholiadau’r heddlu – Operation Yewtree – bellach yn ystyried tua 400 o achosion a chymaint â 300 o ddioddefwyr.