Jimmy Savile (jmb CCA2.5)
Mae ffortiwn Jimmy Savile wedi cael ei rhewi gan y banc, am fod pobol wedi dechrau hawlio iawndal am achosion o gam-drin rhywiol.

Fe gadarnhaodd banc y NatWest eu bod wedi rhoi’r gorau i ddosbarthu ystâd y cyn DJ a chyflwynydd teledu yn sgil yr honiadau o gam-drin.

Y gred yw fod ewyllys Jimmy Savile werth £4.3 miliwn a bod mwy nag 20 o unigolion i fod i elwa ohono, gan gynnwys ymddiriedolwyr rhai o’i elusennau a gweithwyr yn ysbytai Ledds a Broadmoor.

Ond, yn ôl papur yr FT sy’n dweud eu bod wedi gweld copi o’r ddogfen, fe fyddai tua £3.7 miliwn yn mynd i Ymddiriedolaeth Elusennol Jimmy Savile.

Erbyn hyn, mae’r heddlu’n ymchwilio i 400 o honiadau o gam-drin merched ifanc, gan gynnwys digwyddiadau yn eiddo’r BBC a’r ddau ysbyty.