Ian Jones
Fe fydd rhaid i S4C dorri mad o’r set deledu a chyrraedd pobol trwy bob math o gyfryngau digidol newydd, meddai ei Phrif Weithredwr.

Ac wrth gyhoeddi neges i ddathlu 30fed pen-blwydd y sianel, fe ddywedodd Ian Jones ei fod am barhau i “adeiladu perthynas gref” gyda’r BBC a’r Llywodraeth yn Llundain er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n “sylweddoli beth yw gwerth llawn S4C”.

Heddiw hefyd, mae wedi dweud y gallai’r sianel roi fersiwn llais Saesneg ar y botwm coch os bydd hynny’n talu’i ffordd yn ariannol – gan ddefnyddio incwm masnachol y sianel i dalu am y gwasanaeth.

Dewis

Er ei fod yn dweud mai trwy’r teledu y byddai’r rhan fwya’ o bobol yn dal i weld rhaglenni am rai blynyddoedd i ddod, roedd S4C “mewn safle delfrydol” i gynnig rhaglenni i bobol ym mhobman, bob amser.

Fe fyddai hynny’n golygu rhoi rhaglenni ar y cyfryngau newydd, fel cyfrifiaduron tabled a ffonau symudol, gyda’r gwylwyr yn dewis pryd y maen nhw’n gweld rhaglenni yn hytrach na dilyn amserlen.

“Yn hytrach nag eistedd i lawr i wylio rhaglen wrth iddi gael ei darlledu – mae nifer cynyddol o bobol Cymru heddiw eisiau gwylio’r rhaglenni pan mae’n gyflues iddyn nhw, ac mewn ffordd sy’n gyfleus iddyn nhw.”

Amddiffyn y cytundeb

Mewn cyfweliadau radio, mae Ian Jones wedi amddiffyn y cytundeb arfaethedig gyda’r BBC – er gwaetha pryderon cynhyrchwyr annibynnol, sy’n dweud fod gan y BBC hawl yn y pen draw i atal arian i’r sianel.

“Mae’r cytundeb yn dweud yn glir fod gan S4C annibyniaeth olygyddol ac annibyniaeth o ran rheoli,” meddai. “S4C sy’n penderfynu sut i wario’r arian, S4C sy’n penderfynu beth i’w gomisiynu ac S4C sy’n penderfynu ar yr amserlen.”