Nick Clegg
Fe fydd Dirprwy Brif Weinidog Prydain yn ymosod yn ffyrnig ar y Blaid Lafur heddiw ar ôl i’r Llywodraeth golli pleidlais allweddol ynglŷn ag Ewrop.
Roedd 53 o ASau Ceidwadol wedi ymuno gyda Llafur i bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth ac o blaid cynnig i dorri cyllideb yr Undeb Ewropeaidd.
Ond, mewn araith wrth sefydliad materion tramor Chatham House, fe fydd Nick Clegg yn rhoi’r bai yn blwmp ac yn blaen ar yr wrthblaid gan eu cyhuddo nhw o newid polisi “anonest a rhagrithiol”.
Er nad yw canlyniad y bleidlais neithiwr yn rhwymo’r Llywodraeth, mae’n cael ei gweld yn dolc sylweddol i awdurdod y Prif Weinidog, David Cameron.
Fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, y bydden nhw’n “gwrando ac yn cymryd sylw” o’r bleidlais, ond does dim disgwyl iddyn nhw newid eu bwriad o ddadlau tros gadw gwario’r Undeb ar y lefel bresennol.
‘Dim gobaith’
Mae’r gwrthryfelwyr a Llafur yn dadlau tros doriadau ond, yn ôl Nick Clegg, mae Llafur yn gwybod yn iawn nad yw hynny’n bosib ac nad oes gobaith cael toriadau.
Gyda mwyafrif y gwledydd eraill yn galw am gynnydd sylweddol mewn gwario, does dim gobaith llwyddo, meddai, ac fe fyddai safiad Llafur a’r gwrthryfelwyr yn costio i drethdalwyr Prydain.
“Dw i wedi clywed pobol yn dweud fod hyn yn wleidyddiaeth glyfar gan wrthblaid, ac mae’n debyg ei fod. Ond nid dyma ymddygiad plaid sydd o ddifri’ ynglŷn â llywodraethu.”
Neithiwr, fe ddywedodd llefarydd economaidd Llafur, Ed Balls, fod y bleidlais yn “golled i gywilyddio’r Llywodraeth”.