Mae dau filwr o Brydain wedi cael eu saethu yn nhalaith Helmand gan ddyn yn gwisgo lifrai heddlu Afghanistan.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod y milwyr, o gatrawd y Royal Gurkha Rifles, wedi cael eu saethu’n farw wrth ymyl siecbwynt yn Nahr-e Saraj heddiw.

Mae eu teuluoedd wedi cael gwybod.

Dywedodd llefarydd bod eu colled yn “ergyd enfawr” i’r gatrawd a phawb sy’n gwasanaethu yn Helmand.”

Mae 437 o filwyr o Brydain bellach wedi cael ei lladd yn Afghanistan ers Hydref 2001.