LLyr Huws Gruffydd
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn Ninbych nos Wener i wrthwynebu cynlluniau i godi 1,000 o dai ychwanegol ar draws Sir Ddinbych.

Mae’r rhain yn ychwanegol at gynlluniau dadleuol i godi tua 7,500 o dai yno yn ystod y pymtheng mlynedd nesa’.

Arolygwyr y Llywodraeth sydd wedi mynnu bod angen y tai ychwanegol ac, yn ôl gwrthwynebwyr, fe fydd y rheiny’n llyncu tir glas ac yn amharu ar gymunedau gwledig iawn ym mhob cornel o’r sir.

Yr AC Rhanbarthol Llyr Huws Gruffydd fydd un o’r siaradwyr wrth i’r ymgyrchwyr geisio casglu barn pobol leol cyn i’r Cyngor Sir orfod pleidleisio ar y cynlluniau ym mis Rhagfyr.

‘Dinistrio ardal’

Fe fydd y Cynghorydd Alice Jones, un o arweinwyr y gwrthwynebiad ym mhentref Bodelwyddan, hefyd yn siarad – mae pobol yno’n dweud y bydd tua 2,500 o dai newydd yn dinistrio’r ardal.

Mae’r ddadl tros y tai yn Sir Ddinbych yn cael ei chysylltu gyda dadleuon tebyg yn Wrecsam, er enghraifft, gyda’r awdurdodau’n cael eu cyhuddo o godi tai ar gyfer mewnfudwyr a chymudwyr o ardaloedd fel Caer.

Mae’n rhaid i wrthwynebiadau i’r polisi gael eu hanfon erbyn dechrau’r wythnos nesa’.

Dadleuon y gwrthwynebwyr

“Mi fyddai’r cynlluniau yma’n creu un ‘urban sprawl’ yr holl ffordd o Gonwy i Brestatyn,” meddai Marc Jones o swyddfa’r Aelod Cynulliad.

“Mae pobol sydd wedi symud i  mewn i’r ardal hefyd yn gweld y bydd ei chymeriad yn cael ei dinistrio. Mi fydd yn cael effaith ar amgylchedd, yn straen ar isadeiledd ac ar yr iaith a’r diwylliant.”

Yn ôl gwrthwynebydd arall, y Cynghorydd Arwel Roberts o Rhuddlan, fe fyddai tref fach gymharol dawel yn cael ei sbwylio o basio’r cynllun i godi 100 o dai yno.

“Y gwrthwynebiad yn Rhuddlan ydi nad oes angen y tai yma,” meddai. “Mi fydd yn mynd ag ardaloedd gwyrdd o gwmpas Rhuddlan ac yn ymestyn draw am Brestatyn a Gallt Melyd.”

“Maen nhw’n defnyddio ffigurau Cyfrifiad 2001 i ddweud bod angen ond mae’r Cyfrifiad diweddara’ yn dangos nad oes eu hangen nhw.”

Yn ôl Marc Jones, dim ond 600 oedd cynnydd poblogaeth Sir Ddinbych yn y degawd diwetha’.