Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cael ei chyhuddo o gyflwyno Comisiynwyr Heddlu er mwyn “gymryd y bai” am ei llanast hi.
Fe ddywedodd Llafur fod y Llywodraeth yn “troi cefn” ar y frwydr yn erbyn troseddu a bod Theresa May wedi penderfynu cael Comisiynwyr er mwyn ei hamddiffyn hi.
Fe ddaeth yr ymosodiad gan y llefarydd Llafur, Yvette Cooper, sydd hefyd wedi galw am wybodaeth yn awr am y toriadau nesaf yng nghyllideb yr heddlu.
Roedd y Llywodraeth, meddai, yn taflu llwch i lygaid y bobol a’r ymgeiswyr yn yr etholiadau sy’n digwydd bythefnos i ddydd Iau.
‘Llanast yng Nghymru’
Ynghynt, roedd siaradwyr yn Nhŷ’r Arglwyddi wedi condemnio’r Llywodraeth am “smonach” tros gyhoeddi ffurflenni pleidleisio dwyieithog yng Nghymru.
Dim ond ddoe y cafodd y mesur i ganiatáu hynny ei basio ac, yn ôl y gwrthbleidiau, mae’r oedi wedi costio £350,000,
Ar ôl beirniadaeth yn Nhŷ’r Cyffredin, fe ddywedodd yr Arglwydd Touhig, cyn AS Torfaen, fod yr achos yn “shambls”.
Mae’r Llywodraeth yn mynnu fod Comisiynwyr Heddlu’n hen syniad oedd wedi ei godi ymhell cyn bod sôn am doriadau.