Mae rhagor o swyddi bancio yn y fantol heddiw ar ôl i UBS gyhoeddi y bydd yn cael gwared â 10,000 o swyddi yn fyd eang.
Mae’r banc, sydd a’i bencadlys yn Zurich, yn bwriadu cwtogi nifer ei staff o 64,000 i 54,000 erbyn 2015, gyda 75% o’r diswyddiadau tu allan i’r Swistir.
Dywed UBS, sy’n cyflogi 6,500 o staff yn Llundain, y bydd yr ailstrwythuro yn gwneud arbedion o £3.5 biliwn erbyn 2015.
Roedd elw cyn treth y banc wedi gostwng 40% i £1.5 biliwn yn y chwe mis hyd at 30 Mehefin.