Mae un o heddluoedd Cymru wedi cael rhybudd i wella’u dulliau o gadw carcharorion yn y ddalfa, yn sgil dwy farwolaeth o fewn dwy flynedd.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi dweud wrth Heddlu Gwent ei fod yn disgwyl gwelliannau ac mae wedi anfon adroddiad at Arolygwyr yr Heddlu.

Roedd “yn siomedig”, meddai, gydag ymateb Heddlu Gwent i argymhellion ynglŷn ag achos cynharach tebyg.

Crogi ei hun

Bedair blynedd a hanner yn ôl y bu farw Lee Donovan yn y celloedd ym Mhontypŵl, ond dim ond ddoe yr oedd y Cwest.

Fe gofnododd hwnnw ddyfarniad o farwolaeth trwy anffawd ar ôl i’r dyn 23 oed grogi ei hun ym mis Ebrill 2008. Roedd wedi cael ei arestio am ddifrod troseddol ac, yn ôl y Comisiwn, roedd yn ddyn “tryblus”.

Yn ôl y Comisiwn, roedd rheolau wedi cael eu torri gan yr heddlu ac roedd yna ddiffygion o ran cadw cofnodion ond doedden nhw ddim yn gallu dangos bod hynny wedi cyfrannu at farwolaeth Lee Donovan.

Roedd tri swyddog heddlu wedi cael eu henwi – fe gafodd ddau ohonyn nhw gyngor swyddogol ond roedd y trydydd wedi gadael yr heddlu cyn unrhyw achos disgyblu.

Dyfyniadau o adroddiad y Comisiwn

“Mae’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion i Heddlu Gwent i wella hyfforddiant i staff y ddalfa ac ynglŷn â chadw cofnodion y ddalfa.

“Roedd ein hymchwiliad yn edrych hefyd at beth wnaeth Heddlu Gwent i weithredu ein hargymhellion i wella safonau yn y ddalfa yn dilyn marwolaeth Andrew Shepherd yn 2006 ac roeddwn yn siomedig gyda gweithredoedd y llu.

“Dw i wedi dweud wrth yr heddlu fy mod i’n disgwyl gwelliannau yn eu harferion wrth gadw pobol yn y ddalfa.”