Mae cyn ddirprwy brifathro wedi osgoi mynd i garchar ar ôl iddo gyfaddef cipio merch 15 oed a mynd a hi allan am ginio.
Roedd Brian Knowles, 58, sy’n briod, wedi pledio’n euog i bedwar cyhuddiad o gipio plentyn ar ol iddo anfon negeseuon tecst amhriodol at y ferch, mynd a hi i siopa ac i fwyta yn McDonald’s.
Clywodd Llys y Goron Warwick bod Knowles yn ddirprwy brifathro yn Ysgol Barr’s Hill yn Radford, Coventry a’i fod wedi cael y rol o fentora’r ferch yn ei hastudiaethau.
Wrth ei ddedfrydu i naw mis o garchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, dywedodd y barnwr Marten Coates nad oedd yn teimlo bod Knowles yn risg i blant yn y dyfodol.
Roedd Knowles a’r ferch wedi cwrdd bedair gwaith tu allan i’r ysgol y mis Rhagfyr y llynedd a mis Ionawr eleni. Nid oedd yna berthynas rhywiol rhwng y ddau, ac nid oedd Knowles wedi ei chyffwrdd, clywodd y llys.
Fe ddechreuodd ymchwiliad i berthynas y ddau yn yr ysgol ar ol i fam un o ffrindiau’r ferch ei chlywed yn trafod yr athro.
Dywedodd Knowles ei fod yn derbyn bod y negeseuon a’r berthynas yn amhriodol.
Clywodd y llys bod Knowles wedi colli ei swydd o ganlyniad i’r achos a’i fod wedi symud o Coventry gyda’i wraig.